Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mawrth, 6 Tachwedd 2018
Amser:
09.32 -
10.16
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Jayne Bryant AC (Cadeirydd) Gareth Bennett AC Andrew RT Davies AC Helen Mary Jones AC Michelle Brown AC |
Staff y Pwyllgor: |
Meriel Singleton (Ail Glerc) Claire Griffiths (Dirprwy Glerc) Enrico Carpanini (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
1.2 Croesawodd y Cadeirydd Helen Mary Jones AC a gafodd ei hethol yn ddiweddar i'r Pwyllgor yn lle Llyr Gruffydd AC. Diolchodd i Llyr am ei holl waith ar y Pwyllgor.
1.3 Cytunodd y Pwyllgor y byddai Andrew R T Davies AC yn gweithredu fel Cadeirydd dros dro yn unol â pharagraff 10.2 o'r weithdrefn gwyno.
1.4 Daeth Michelle Brown AC fel Aelod arall ar gyfer Eitem 3
2.1 Nodwyd yr ohebiaeth. Cytunwyd y byddai'r Cadeirydd yn ysgrifennu at y Prif Weinidog newydd ynghylch Cod y Gweinidogion ddechrau 2019.
3.1 Ystyriodd Aelodau'r Adroddiad gan y Comisiynydd Safonau yn unol â Rheol Sefydlog 22.1(i)
3.2 Bydd y Clercod yn llunio adroddiad i'r Aelodau ei ystyried.